Term cyfreithiol a ddefnyddir yn nheyrnasoedd y Gymanwlad yw wrth ewyllys Ei Fawrhydi[1] (Saesneg: at His Majesty's pleasure; neu Ei Mawrhydi (Her Majesty's) pan bo'r teyrn yn fenyw) a ddaw o'r ffaith bod holl awdurdod cyfreithlon y llywodraeth yn tarddu o'r Goron. Mewn gwledydd lle cynrychiolir y teyrn gan Lywodraethwr Cyffredinol, gall newid y term i "wrth ewyllys y Llywodraethwr" (Saesneg: at the Governor's pleasure).
Yn Gymraeg defnyddir hefyd y term hyd y mynno Ei Fawrhydi[2][3] pan yn cyfeirio at garchariad. Caiff person a gedwir mewn carchar neu ysbyty seiciatrig am amser amhenodol ei "gadw hyd y mynno Ei Fawrhydi". Defnyddir gan amlaf ar droseddwyr ifainc yn lle carchariad am oes.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search